PSOW (Public Services Ombudsman for Wales) Not Upheld

Cardiff and Vale University Health Board

PSOW-202407036 · Health › Referral to treatment time · Decision date: 20 November 2025 · View Cardiff and Vale University Health Board scorecard

Full Decision

Cwynodd Ms C am safon y gofal a ddarparwyd iddi gan y Bwrdd Iechyd yn dilyn diagnosis o’i niwroma acwstig (math o diwmor ar yr ymennydd) yn 2024. O ganlyniad, gofynnodd am drosglwyddo ei gofal i ysbyty gwahanol.

Ystyriodd ymchwiliad yr Ombwdsmon a oedd y gofal a’r driniaeth a ddarparwyd i Ms C yn dilyn ei diagnosis yn briodol ac yn amserol.

Cydnabu’r Ombwdsmon fod y diagnosis o diwmor ar yr ymennydd, a’r driniaeth lawfeddygol a oedd ei hangen o ganlyniad, yn sefyllfa anodd a gofidus i Ms C. Fodd bynnag, nid oedd tystiolaeth bod hyn yn deillio o fethiant gwasanaeth gan y Bwrdd Iechyd gan fod yr Ombwdsmon wedi dod i’r casgliad bod y gofal a ddarparwyd yn briodol ac yn amserol, ac yn unol ag arfer clinigol derbyniol. Ni chadarnhawyd y gŵyn.